Ar un pryd, roedd Brenin Gwrtheyrn yn brenin ar Prydain i gyd. Ond roedd ei bobl yn dechrau gwrthryfel, a roedd ei deyrnas mewn perygl. I ddenig, aeth o a’i filwyr i fynyddoedd Eryri ac yn agos i llyn Gwynant, ar waelod yr Wyddfa roedd yna fryn perffaith i adeiladu caer cryf. Roedd o’n uchel ac yn anodd i ddringo, gyda mynyddoedd ar bob ochr – perffaith i amddiffyn os bydd rhywun yn ymosod. Felly gyrrodd Brenin Gwrtheyrn, ei ddynion i gyd i ddechrau adeiladu y caer perffaith. Ar ol dydd hir o adeiladu, penderfynnodd pawb i adael hi am y noson. Ond pan ddaeth nhw’n ol y bore wedyn, roedd y waliau i gyd wedi dymchwel. Credodd y brenin fod rhyw ddeargryn wedi ei chwalu, felly ni feddyliodd fwy amdano a gyrrodd o ei bobl i adeiladu eto. Ond roedd yr un peth wedi digwydd y diwrnod nesaf pan welodd y brenin ei waliau wedi dymchwel eto. Y tro yma, roedd y brenin yn siwr fod ymosodwyr yn dod pob nos i chwalu’r caer. Aeth ei ddynion i ymchwilio y tir ogwmpas ond nid oedden nhw ‘n gallu dod o hyd olrhain unrhyw berson.

 

Heb syniad beth i’w wneud, gofynnod Gwrtheyrn i ei gynghorwr am syniadau. Ar ol amser hir o feddwl, dywedodd ei Gynghorwr i herwgipio bachgen ddi-dad a mi fydd o yn gwybod beth oedd yn achosi’r broblem. Parhaodd y chwilio am wythnosau tan i’r milwyr ddod o hyd i’r bachgen – Myrddin Emrys. Dywedodd Myrddin fod yna ddwy ddraig yn ymladd pob nos odan y bryn mewn ogof fach gyda phwll ynddi, a dyna oedd yn chwalu’r caer. Un ddraig goch, ac un ddraig wen. “Dreigiau odan y bryn?!” Chwarddodd Gwrtheyrn ond dywedodd ei gynghorwr bod yna siawns fawr fod y bachgen yn dweud y gwir. Felly, gorchmynnodd y brenin i ei filwyr gloddio’r bryn i ddod o hyd i’r dreigiau. Ar ol oriau o gloddio gwaeddodd un or dynion:

“Mae o’n wir!” ebychodd. Rhedodd pawb i weld y dreigiau. Wrth gwrs, yna, roedd y ddwy ddraig yn cysgu.

 

Ond wrth i’r golau dydd llifo trwy’r twll, cododd y ddraig goch ac hedfannodd o allan i fewn i’r awyr agored. Lledaenodd ei adenydd a rhoi bloedd anferth ar draws y dyffrynoedd. Yn sydyn, dilynnodd y ddraig wen, a ddechreuodd nhw ymladd eto. Am oriau, gwyliodd pawb y ddwy fwystfil yn ceisio lladd ei gilydd mewn brwydr anferth. Roedden nhw’n taflu ei gilydd yn erbyn mynyddoedd ac yn crafu gyddfau eu gilydd, mi roedd hi’n olygfa erchyll ond erbyn y diwedd roedd y ddraig wen wedi blino’n lan ac yn cael trafferth amddiffyn yn gryf. Cafodd y ddraig goch yr ymosodiad olaf a disgynnodd y ddraig wen i’r llawr yn gelain! Arhosodd y ddraig goch yn yr awyr am ychydig cyn troi ac hedfan trwy’r awyr efo dim ond swn ei adenydd i glywed. Yn sydyn, roedd y ddraig bron yn amhosib i weld.

 

Heb y dreigiau yn chwalu y castell bob nos, tyfodd o i fod yn gaer fawr perffaith i Gwrtheyrn. Gan fod y llwyddiant i gyd wedi dod o Myrddin, penderfynnodd Gwrtheyrn i alw y bryn yn Dinas Emrys ar ei ol!