Ysgrifennais yr ymson hon ym mlwyddyn 3, yn ddiwedar mi wnes i ddod o hyd iddi a penderfynnais i rannu hi eto!
Gareth Bale:
Dwi methu coelio, dwi wedi cael fy newis eto gan Ryan Giggs i chwarae i fy ngwlad. Does dim teimlad gwell na gweld fy enw ar y rhestr. Gallai ddim disgwyl i gymryd drosodd y byd pêl droed gyda’r hogiau. C’mon Cymru!
Dwi wedi ecseitio yn barod, yn ol i Gymru a fi, hedfan o Fadrid i Gaerdydd. Mae hedfan dros y dyffrynnoedd at Gaerdydd yn deimlad rhyfedd a hapus, adre yn ôl. Maen fis Mawrth, bydd cennin pedr ym mhob man a Chymru’n dathlu ar ôl y “Six nations”. Bydd Caerdydd yn fyw a phawb yn parhau gyda’r parti i’r gem fawr pêl droed rhyngwladol. Mae bod yn rhan o hyn yn gwneud i flew fy mreichiau sefyll i fyny yn barod. Does dim un gwlad arall gyda chefnogwyr fel ni. Pan mae’r dyrfa yn canu a creu atmosffir ardderchog, mae’n pasio i ni ar y cae a da ni yn cwffio am y bel rhag gadael y “ffans” i lawr. Mae’n deimlad anhygol. Dyna fy rheswm i bob amser trio fy ngorau yn ymdrechu yn galed er mwyn cael lle yn y tîm.
Fel arfer, i gael gwisgo’r ddraig rhaid rhoi dy fywyd ar y llinell a chwffio dros dy wlad, ond i gael rhoi y chrys coch dros fy mhen yn deimlad swreal iawn, a llawn balchder. Dwi yn cario gobeithion y wlad ar fy ysgwyddau ac yn perfformio dan bwysau. Ond gallai ddim disgwyl! Gallai ddim disgwyl dringo grisiau’r bws a trefeilio o’r gwesty, trwy Gaerdydd, heibio’r castell ac ymlaen at y stadiwm. Mae’r stadiwm yn grwn fel y colloseum o Rufain. A dwi yn teimlo fel un o’r gladiatoriaid yn barod am y sialens. Tyrd! I ni gael chwarae pel droed!
Mae pob math o bethau yn mynd trwy fy meddwl i, a phob teimlad yn llifo drwy fy nghorff. Dydw i methu disgwyl i gael rhoi’r crys dros fy mhen a mynd i sefyll yn y twnnel. Dwi’n teimlo’r pili pala yn fy stumog yn troi’n ddreigiau enfawr wrth i mi gerdded allan ar y cae.
Ac fel mae’r bathodyn yn ei ddweud, Gorau Chwarae, Cyd Chwarae. Dwi mond y gorau achos fy mrodyr yn y tîm. Pêl droed yw fy mywyd, lle rydw i’n mynd i ddianc. Y lle dwi hapusaf.
-EGM
(Cafodd hwn ei ysgrifennu at yr Ewros 2020)