Plasdy ar stad anferth yn agos i fangor yw Castell Penrhyn. Teulu Pennant oedd yn berchen a’r castell, roedd nhw’n teulu cyfoethog iawn oherwydd eu planhigfeydd caethweision yn Jamaica. Ar ol gadael Jamaica, aeth nhw i weithio fel masnachwyr yn lerpwl cyn cyrraedd Bangor ac adeiladu y castell. Richard Pennant oedd barwn cyntaf y plasdy a roedd o’n un o’r dynion wnaeth gwffio i gadw caethwasiaeth yn gyfreithol. Roedd pobl yn ceisio gwneud caethwasiaeth yn anghyfreithlon ond roedd pobl hurt fel yma – gyda eu chyfoeth i gyd yn dod o gaethwasiaeth yn gyfrifol am gwneud yn siwr ni chafodd caethwasiaeth ei wneud yn anghyfreithlon ym mhrydain tan 1833. Ond roedd Richard hefyd yn gyfrifol am adeiladu llawer o bethau yn yr ardal fel ysgolion, eglwysi, lonydd, gwesdai, reilffyrdd a fwy.
Ar ol i Richard farw, cafodd y stad ei basio i ei gefnder: George Hay Dawkins Pennant. Yn 1833, pan gafodd gaethwasiaeth ei wneud yn anghyfreithlon o’r diwedd cafodd teulu penannt (a phob teulu oedd yn dibynnu ar gaethwasiaeth) iawndal o £14,683 (Heddiw ~£2.2 milliwn). Cafodd y plasdy a’r stad ei basio ymlaen trwy’r teulu am flynyddoedd a blynyddoedd tan i Janet Dougles Pennant cael y stad yn 1949. Hi oedd berchennog olaf y chastell oherwydd yn 1951 cafodd y chastell ei symud i berchenogaeth y National Trust, sef cwmni sydd yn gofalu am adeiladau a strwythurau llawn hanes yn y D.U. National Trust sydd yn berchen a’r chastell heddiw. Yn 2019-2020 cafodd y chastell tua 140,000 o ymwelwyr!
Mae Castell Penrhyn wedi ei adeiladu mewn steil ‘romanesque revival’ gyda defnyddiau fel carreg, brics a galchfaen. Mae ‘romanesque revival’ yn steil pensaeriniaeth sydd yn cael ei adnobod trwy gwaith maen, bwau carreg ogwmpas ffenestri a drysau, tyrrau ac eu toau unigryw. Heddiw, mae’n cyfle anhygoel i weld pensaeriniaeth prydferth, gerddi hyfryd a hanes pwysig.