Adeiladodd Lloyd Hesketh Bramford Hesketh Castell Gwrych rhwng 1812 ac 1822 fel ty i ei deulu. Roedd ei deulu yn byw yn y castell tan 1924. Roedd y teulu wedi berchen y 236 erw ers o leiaf yr 15ed ganrif! Cafodd y chastell ei adeiladu mewn steil ‘gothic revival’ allan o haearn a galchfaen llwyd a gwyn.
Yn ystod yr ail rhyfel byd roedd 200 o ffoaduriaid iddewig yn cael ei warchod yna i eu hachub oddi wrth y rhyfel. Ar ol diwedd y rhyfel, cafodd y castell ei werthu i Robert Rennie a wnaeth o throi hi i fewn i ganolfan ymwelwyr. Roedd hi hefyd yn cael ei ddefnyddio am bob math o bethau fel ymarferion bocsio, raliau beiciau modur a roedd Lemmy, canwr y band motorhead wedi aros yna! Erbyn 1987 roedd y castell yn cael ei fandaleiddio yn ddrwg a roedd rhaid i’r ganolfan ymwelwyr cau. prynodd Nick Tavaglione y castell gyda gobeithion i droi o i fewn i ganolfan opera ond ni chafodd y planiau ei orffen. Yn anffodus cafodd y castell ei ysbeilio a fandeleiddio yn belach tan roedd y tu fewn i gyd wedi cael ei ddinistrio.
Tra roedd Mark Baker yn blentyn, gwiliodd o y castell yn cael ei ddinistrio a roedd o’n benderfynnol i ei hachub hi. Hwyrach ymlaen, sefydlodd o’r ‘Gwrych Castle Preservation Trust’ i warchod y castell ac erbyn 2018 roedd y ‘trust’ wedi cael berchennog llawn o’r castell. Cafodd y stad ei ddefnyddio yn 2020 a 2021 gan y sioe deledu poblogaidd ‘I’m a Celebrity… Get Me Out of Here!”, enillodd hyn lawer o gyhoeddusrwydd i’r gastell. Mae’r ‘Gwrych Castle Preservation Trust’ yn gobeithio i atgyweirio y castell ond mae hi’n ymdrech ddrud iawn; mae Cadw (cwmni sy’n gwarchod adeiladau hanesyddol fel cestyll) yn nodi castell gwrych fel un o’r cestyll mewn risg fwyaf.