Ar fore’r briodas roedd pawb wedi ymgasglu yn Nant Gwrtheyrn i chwarae’r gêm draddodiadol o ‘Chwilfa Briodas’ cyn symud ymlaen i gynnal y seremoni yn Eglwys Clynnog. Rheol y gêm oedd bod y ddarpar briodferch yn rhedeg i guddiad yn rhywle a bod bechgyn y pentref yn gorfod ei ffeindio hi. Roedd y bechgyn cyntaf i ddod o hyd i Meinir yn cael ei chusanu hi cyn y briodas. Ar ôl i Meinir ddiflannu i rywle, treuliodd y bechgyn ifanc oriau yn chwilio amdani.
Mae llawer yn dweud roedd Rhys wedi treulio misoedd ar ôl y briodas yn chwilio amdani, ac roedd o wedi dechrau colli’i bwyll a’i feddwl yn llawn pryderon. Ar ôl 4 mis o chwilio, penderfynodd fynd at ei hoff goeden dderw fo a Meinir ac edrych yn fan’no. Wrth iddo edrych tu mewn i’r goeden, holltwyd y boncyff yn hanner a disgynnodd sgerbwd Meinir a roedd dal i wisgo ei ffrog briodas allan o’r goeden. Ar ddiwrnod eu priodas roedd Meinir wedi cuddiad yn yr hen goeden yn meddwl y buasai Rhys yn ei ffeindio yno, ond aeth ei ffrog yn sownd ac fe wnaeth hi farw yn y goeden.
Ar ôl yr holl chwilio, roedd Rhys o’r diwedd wedi ffeindio ei gariad. Wedi’i lethu gan dristwch, bu farw o hefyd o dor calon o dan y goeden dderw wrth ochr ei wir gariad.
Yn ôl y sôn, mae’r rhai sy’n ymweld â Nant Gwrtheyrn yn gallu gweld dau ysbryd yn symud ar draws y traeth law yn law, Rhys gyda’i farf hir a Meinir yn ei ffrog briodas hyfryd a dim ond tyllau gwag ble mae ei llygaid hi. Mae rhai hefyd yn dweud mai dim ond tylluan a morfran y bydd yn cael glanio ar foncyff y goeden dderw yno.