Roedd y deyrnas wedi disgyn ac y brenin wedi cael ei ladd. Cerddodd Rhita Gawr drwy’r strydoedd a roedd wedi llosgi, gyda gwen ar ei wyneb yn gwybod ei fod o wedi lladd brenin arall a wedi gymud ei dir o. Rhwygodd o, y barf oddi ar gwyneb ddi-fywyd y brenin a dechreuodd o i wnio y barf ar ei glogyn. Roedd Rhita yn byw yn uchel yn fynyddoedd Eryri, i ffwrdd o bawb arall. Y cawr mwyaf a cryfaf yn Prydain i gydr oedd Rhita a roedd o’n barod i ymladd. Yn yr amser yma, roedd dwsinau o deyrnasau yn bodoli gyda’i gilydd. Roedd rhyfelau yn gyffredin iawn. Yn bell yn y mynyddoedd, roedd Rhita yn dychmygu cael un teyrnas gyda fo yn rheoli popeth.
Ei dargedau gyntaf oedd Nynio a Peibio. Ar ol blynyddoedd o frwydro, roedd y ddau deyrnas yn hawdd i chymyd drosodd. Rhedodd Rhita i fewn gyda y creaduriaid erchyll erill o’r fynyddoedd i guro’r milwyr yn hawdd. Roedd pob brenin o gwmpas wedi dychryn gyda cryfder y cawr. Penderfynnod nhw i orffen eu rhyfelau gyda’i gilydd a brwydro Rhita yn lle. Daeth nhw i gyd i ymladd ond roedd Rhita yn barod. Ar ol rhyfel hir a chostus, roedd Rhita a’i greaduriaid wedi lladd y 28 brenin gwahanol oedd wedi penderfynnu ymosod arno. Nawr, roedd yna 28 barf newydd ar ei glogyn.
Ond roedd yna dal 1 brenin ar ol, un brenin yn benderfynnol i lladd Rhita Gawr. Ac yr un brenin yma oedd Brenin Arthur. Roedd ei bobl yn dweud iddo gyrru ei farf i Rhita heb cael ei ladd ond roedd o’n gwybod bydd rhaid iddo ymladd yn erbyn Rhita ei hyn. Wrth i’r wawr godi, ar ben y mynydd fwyaf yng Nghymru i gyd, gwelodd Arthur, Rhita. Roedd y ddau yn gryf ac roedd eu fyddinau yn hafal. Mi wnaethom nhw ddioddef anafiadau trwm ar y ddau ochr a roedd y frwydr yn un hir a gwaedlyd.
Ar ol cyfnod hir o ymladd roedd Rhita wedi blino’n lan ac Arthur gyda siawns anhyogoel i orffen y frwydr. Brasgamodd ymlaen a gwthiodd ei glefydd i fewn i’r cawr. Llewygodd Rhita i lawr a gwibiodd y creaduriaid yn ol i’r mynyddoedd. Roedd Rhita wedi methu cael y barf olaf i ei glogyn. Cuddiodd milwyr Arthur corff Rhita gyda tunellau o gerryg. Dros y flynyddoedd, cafodd y copa ei orchuddio gyda eira. Roedd mynydd mwyaf Cymru rwan ddim ond yn fedd i Rhita, felly cafodd ei enwi yn Gwyddfa Rhita. Heddiw, mae enw’r mynydd wedi newid i’r Wyddfa, rydym i gyd yn ei hadnabod. Ond ar un pryd, roedd Rhita ac Arthur yn cael brwydr ar y brig.