Yn 1951 cafodd Eryri ei wneud yn barc genedlaethol. Y flwyddyn wedyn, roedd arfordir Sir Benfro wedi cael ei wneud yn barc genedlaethol ac yn olaf, yn 1957, ymunodd Bannau Brycheiniog i’r gasgliad. Rhain yw 3 parc cenedlaethol Cymru! Er fod Lloegr dros 6 gwaith yn fwy na Cymru, 10 parc cenedlaethol sydd gan nhw. Mae 20% o tir Cymraeg i gyd wedi ei orchuddio gyda rhai o’r dirweddau fwyaf brydferth sydd yna i weld, felly rydym yn lwcus iawn i gal gwlad gyda gymaint o dirweddau hardd!

 

Beth Yw Parc Cendelaethol?

Parc cenedlaethol yw darn o dir sydd yn cael ei warchod yn benodol gan y llywodraeth oherwydd ei dirweddau rhyfeddol, ei fywyd gwyllt unigryw neu prin, neu ei arwyddocâd diwylliannol. Mae gan bob parc cenedlaethol rheolau gwahanol pan mae’n dod i bethau fel ble sydd ar gael neu pa bethau sydd yn waharddedig felly mae’n anodd siarad dros bob parc cenedlaethol gan ei fod nhw i gyd mor unigryw. Fel unigolyn yn ymweld â pharc cenedlaethol, beth sy’n bwysig yw dilyn y cyfarwyddiadau a’r arwyddion, peidio gollwng sbwriel, peidio hedfan ‘drone’, a pheidio fandaleiddio dimbyd. Mae parc cenedlaethol – dim ots pa un rydych yn penderfynu ymweld, bydd o’n antur hwyl i bawb ac os rydych wedi blino o’r holl gerdded, bydd cyrraedd y brig a chael gweld y tirweddau anhygoel yn dy helpu!

Bannau Brycheiniog: 

   Mae Bannau Brycheiniog yn ardal 1,340Km2 yn dde-ddwyrain Cymru. Pen y fan yw big uchaf y parc. Mae’r mynydd yn 886 metr uchel ac yn denu dros 500,000 o bobl pob blwyddyn. Mae mynyddoedd uchel eraill yr ardal yn cynnwys Corn Du (873 metr) a Chraig Gwaun Taf (826 metr). Yn ddifyr, mae yna ddwy gadwyn fynyddoedd o’r enw’r mynyddoedd du yn Bannau Brycheiniog, un yn orllewin y parc ac y llall yn y dwyrain. Mae’r gadwyn ddwyrain yn llawer fwy ac yn ymestyn allan o’r parc i mewn i ‘Herefordshire; yn Lloegr (dydy’r darn yma ddim yn rhan o’r parc). Mae’r enw Bannau Brycheiniog yn dod o’r 16eg ganrif. Mae Bannau yn golygu’r copaon y mynyddoedd ac roedd Brycheiniog yn deyrnas hen iawn (dechrau yn 450AD) yn yr ardal yna. Felly copaon y deyrnas Brycheiniog yw ystyr yr enw. Mae Pen y fan rhai o’r pigau o’i chwmpas yn cael ei alw ‘Y Bannau Canol’. Mae yna 4 afon bwysig sy’n dechrau yn yr ardal, sef, Tawe, Usk, Nedd a Monnow. Yn Bannau Brycheiniog mae yna lawer o nodiadau unigryw eraill hefyd, sy’n cynnwys yr Ogof Ffynnon Ddu, sef system ogofau anferth, sy’n cychwyn wrth yr ardal Fforest Fawr yn ganol y parc. Hefyd, y rhaeadr Henryd sy’n 27 metr!

 

Eryri: 

   

  Yn ngogledd-orllewin Cymru mae’r Parc Cenedlaethol y 4ydd fwyaf yn y DU – Eryri. 2,130Km2 yw maint y parc. Ar draws yr ardal mae yna nifer fawr o fynyddoedd uchel iawn. Mae pob mynydd Cymru sy’n uwch na 900 metr yn Eryri. Wrth gwrs, y mynydd uchaf ac enwocaf yng Nghymru yw’r Wyddfa. Mae’r mynydd yn 1,085 metr uchel, sydd hefyd yn ei wneud o’r mynydd 2ail yn y DU (Tu ôl i Ben Nevis yn Yr Alban). Mae yna 8 gadwyn o fynyddoedd yn Eryri, sef, Glyderau, Carneddau, Yr Wyddfa, Moelwynion a Moel Hebog, Rhinogydd, Cadair Idris ac Aran. Mae yna 5 mynydd sy’n uwch na 1000 metr yng Nghymru ac maen nhw i gyd wedi’i lleoli yn Eryri.Eu henwau yw Yr Wyddfa (1,085 M), Garnedd Ugain (1,065 M), Carnedd Llywelyn (1,064 M), Carnedd Dafydd (1,044M) a Glyder fawr (1,001 M). Mae yna lawer o afonydd yn Eryri hefyd, gyda rhai yn gorffen yn Bae Ceredigion (Fel Glaslyn, Dyfi, Dwyryd, Wnion, Mawddach, Eden a Dysynni), rhai yn gorffen yn yr Afon Menai (fel y Seiont a’r Gwyrfai) a rhai yn gorffen yn Bae Conwy (Fel yr Ogwen). Yn Eryri mae llyn fwyaf Cymru hefyd sef Llyn Tegid yn Bala, mae’r llyn yn 4.84Km2. Am oes pan roedd Gwynedd yn deyrnas annibynnol, roedd mynyddoedd Eryri yn amddiffyn nhw oddi wrth eu hymosodwyr. Ac yn mynyddoedd Eryri mae rhai o chwedlau mwyaf enwog Cymru wedi cael eu creu fel engraifft; Rhita Gawr a Dinas Emrys

Arfordir Sir Benfro:

  Mae’r parc cenedlaethol yn ymestyn o gwmpas arfordir Sir Benfro sydd yn ei wneud yn yr unig barc cenedlaethol yn y D.U.. sy’n rhan fwyaf tirweddau arfordirol. Er y parc yw’r un lleiaf yng Nghymru (629km2) mae o dal i fod yn anhygoel gyda thraethau prydferth, clogwynau garw, bryniau a choedwigoedd. Nid ydy’r parc yn enwog am fynyddoedd uchel ond yn y dwyrain mae yna ardal o’r enw mynyddoedd Preseli gyda llawer o fynyddoedd. . Y rhai talaf yw Carn Siân (402 Metr), Cnwc (426 Metr), Foel Feddau (467 Metr), Foel Eryr (468 Metr) a Moel Cwmcerwyn (539 Metr). Mae Mynyddoedd Preseli yn un o 4 ardal yn y parc. Y 3 arall yw Aber Daugleddau (Ble mae 4 afon yn cyfarfod, sef, y cleddau (Gorllewin a Dwyrain), y Carew, ac y Creswell), Bae Sain Ffraid a De Arfordir Sir Benfro. Ar draws y parc mae yna 14 lle penodol i gadw natur neu fywyd gwyllt (heb gynnwys y parc ei hun sy’n gofalu am y tirweddau arbennig) yn cynnwys un i fywyd y môr. Yn 1970, agorodd llwybr trwy’r parc. Mae’r llwybr yn mynd ar draws y clogwynau hyfryd am 299km. Yn 2012, cysylltwyd y llwybr gyda’r llwybr arfordirol sy’n ymestyn ar draws arfordir Cymru i gyd i orffen y nod o gael un llwybr (hir iawn) sy’n ymestyn ar draws arfordir y wlad i gyd. Oherwydd hyn, Cymru yw’r unig wlad yn y byd gyda llwybr ar draws holl arfordir ei thir! Yn 2024 cafodd Sir Benfro ei alw yr ardal fwyaf prydferth i fyw yn, yn y DU i gyd!