Tudalennau newydd ar gael! Chwiliwch Powys neu Teifi i weld hanes diddorol Castell Powys a Castell Aberteifi

Cafodd Castell Criccieth ei adeiladu gan Llywelyn ap Iorwerth (Llywelyn Fawr) yn yr 1230au. Ar y pryd, fo oedd tywysog Gwynedd. Cafodd y Castell ei wneud yn fwy gan Llywelyn ap Gruffudd (Llywelyn ein llyw olaf) cyn y rhyfel yn erbyn y Saesneg yn 1277. Ar ol diwedd y rhyfel cafodd y castell ei gymryd gan Edward y 1af. Cafodd y castell ei chipio ac ei gymryd yn ol gan y Saeson dwy waith mewn gwrthryfel, cyntaf gan Madog ap Llywelyn yn 1294 ac wedyn gan Owain Glyndwr yn 1404. Ond yn ystod gwarchae y castell yn 1404, cafodd tan ei dechrau yn y castell (does dim tystiolaeth hollol dibynadwy am hyn, efallai dechreuodd y tan blynyddoedd wedyn, o achos wahanol). Mae’n tebygol fod y tan yma wedi bron chwalu y castell. Ar ol hyn, cafodd hi ei adael, erbyn 1450 roedd hi wedi cael ei hollol dinistrio. 

 

 

Yn 1858, cafodd y castell ei werthu i William Ormsby-Gore. Penderfynnod William i dechrau ychydig o waith adferio yn 1879. Yn 1933, gwnaeth ei wyr, George Ormsby-Gore, mwy o waith arno. Wedyn dechreuodd gwaith cloddio yn y castell i ddangos mwy o’r waliau oedd wedi cael eu orchuddio gan pridd dros y canrifoedd. Heddiw, Cadw (cwmni sy’n gwarchod adeiladau hanesyddol fel cestyll yng Nghymru) sy’n berchen a’r castell. Wrth y dref hardd, roedd y castell yn cael rhwng 40,000 a 50,000 o ymwelwyr pob blwyddyn.