Mae Castell Caernarfon yn cael ei alw’r castell fwyaf prydferth yng Nghymru gan rai a mae hi’n un o’r 4 castell yng Nghymru sydd yn safle treftadaeth y byd UNESCO! Cafodd ei ddechrau ei adeiladu yn 1284 gan Edward I o Loegr, ond dwy flynedd ar ol farwolaeth Llywelyn ein Llyw Olaf. Erbyn 1330 roedd y castell wedi gorffen. Pan gyrhaeddodd Edward yna, roedd ganddo ddiddordeb yn Segontiwm – y caer Rhufeinig cafodd ei adael gan y Rhufeiniaid yn 383. Penderfynodd o i adeiladu’r castell ar safle wrth ymyl yr afon Menai, tua taith 10 munud ar droed o’r gaer Rhufeinig. Yn anffodus, cymodd nhw lawer o adnoddau fel cerrig o’r gaer Rhufeinig, wnaeth hyn cyflawni llawer i ddifrod y caer. Erbyn heddiw, ond y seiliau sydd i weld.
Tra roedd y castell yn cael ei adeiladu, roedd tref Caernarfon yn cael ei adeiladu gyda hi. Tyfodd y dref yn sydyn, a daeth hi’n brifddinas i ogledd Cymru am gyfnod hir. Er mwyn amddiffyn y dref, adeiladodd Edward waliau gwmpas y dref sydd dal i sefyll heddiw. Mae rhai yn dweud eu bod nhw’n debyg i’r waliau gwmpas Istanbul yn Dwrci. Dim llawer o weithiau cafodd y castell ei ddefnyddio mewn rhyfel ond roedd yna rhai achosion. Yng nghyntaf, yn 1294 (Cyn i’r castell cael ei orffen) cafodd o ei gipio gan Madog ap Llywelyn yn ei gwrthryfel yn erbyn y Saeson. Y flwyddyn wedyn, curodd y Saeson, y castell yn ol. Rhwng 1400 a 1415, ceisiodd Owain Glyndwr chipio’r castell yn ei wrthryfel, ond ni lwyddodd o. Yn olaf, rhwng 1642 a 1651 cafodd y castell ei ddefnyddio yn rhyfel cartref Lloegr, cafodd o ei gipio a cholli 3 gwaith gwahanol yn y rhyfel. Ar ol hyn, ni chafodd y castell ei ddefnyddio llawer wedyn.
Heddiw, mae’r castell yn cael ei ofalu gan Cadw, sef cwmni sy’n gwarchod safleoedd hanesyddol yng Nghymru fel cestyll. Mae tua 200,000 o bobl yn ymweld a Castell Caernarfon bob blwyddyn!