Tudalennau newydd ar gael! Chwiliwch Powys neu Teifi i weld hanes diddorol Castell Powys a Castell Aberteifi

Yn 1093, cafodd castell gyntaf Aberteifi ei adeiladu milltir o safle castell Aberteifi presennol. Cafodd y castell ac y dref ei adeiladu gan Roger de Montgomery, barwn Norman. Rhwng 1093 a 1110 cafodd Aberteifi ei gymyd gan Owain ap Cadwgan, tywysog powys. Roedd Owain wedi gwneud llawer o bethau i wylltio Brenin Lloegr, Henry I. Roedd rhai o’r pethau yn cynnwys llosgi castell Cilgerran, herwgipio gwraig perchennog y castell, Nest (roedd hi hefyd yn ail gyfneithar i Owain), Ysbeilio trefi yn Dyfed a ladd William of Barbant (dyn pwysig o trefedigaeth fflemaidd). Fel cosb, cafodd Aberteifi ei gymyd gan Owain a cafodd Gilbert Fitz Richard y dref. Gilbert wnaeth adeiladu y castell newydd, ar ol i’r all cael ei chwalu. Yn 1136, pan gafodd y castell ei basio I mab Gilbert, Gilbert Fitz Gilbert De Clare, ymosododd Owain Gwynedd a cymryd y tref ac ei llosgi. Cafodd ei gymyd eto gan y normaniaid ac yna eto gan Rhys ap Gruffudd, tywysog Deheubarth, yn 1166. Yn 1171, dechreuodd o ailadeiladu castell Aberteifi. 

 

 

Mae Castell Aberteifi yn bwysig iawn i Gymru gan fod yr eisteddfod cyntaf erioed wedi cael ei gynnal yna. Yn 1176, daeth cantorion, beirdd, cerddorion a phob math o bobl dalentog i gystadlu am y gadair yn Eisteddfod gyntaf erioed, Eisteddfod Aberteifi. Ond pan bu farw Rhys, roedd yna ffraeo rhyw ei feibion, Maelgwn a Gruffudd am berchennogaeth y castell. Penderfynnodd Maelgwn ildio ei frawd ei hyn i Brenin John o Loegr a gwerthodd o’r castell iddo hefyd. Cafodd y castell ddim ei gymyd yn ol I ddwylo Cymraeg tan 1215. Cymerodd Llywelyn Fawr y castell ac yn Aberdyfi, y flwyddyn wedyn, penderfynnod y senedd fod y castell yn mynd i meibion Gruffudd. Yn 1223, cymerodd William Marshall y castell. Arhosodd o yna tan 1231 pan ddaeth Rhys Grug o Ddeheubarth I gymyd y castell yn ol I Llywelyn. Pan bu farw Llywelyn, cymerodd y normaniaid y castell unwaith eto. Gwelwn fod y castell yna wedi cael hanes llawn newid perchennogaeth rhwng y normaniaid a’r Cymraeg. Am canrifoedd wedyn, cafodd y castell ei ddefnyddio fel carchar ond yn yr 17fed ganrif, yn ystod rhyfel cartref Lloegr, cafodd y castell ei ddifrodi yn ddrwg. Yn 1940, symudodd Barbara Wood ac ei fam i’r castell ar ol iddo cael ei brynu gan ei thad. Arhosodd hi yn y castell am degawdau, er fod y cyngor yn dweud fod y castell ddim yn adidas I fyw yn. O’r diwedd yn 1996, symudodd Barbara Wood i gartref nyrsio a cafodd y castell ei werthu i Cyngor Ceredigion yn 2001. Wedyn, roedd yna atgyweiriadau mawr parhaodd tan 2015 pan gafodd y castell ei agor.