16 Dinas, i gyd wedi’i gysylltu ag i gyd yn cael eu hamddiffyn gan y waliau. 20 milltir i mewn i beth heddiw yw Bae Ceridigon, roedd y dinasoedd yn sefyll ar waelod y môr. Y waliau oedd yr unig beth oedd yn cadw’r dŵr rhag llifo i mewn a gorchuddio pob dinas odan y môr am byth. Gwyddno Garanhir oedd Brenin yr 16 dinas ac roedd ganddo ffrind ffyddlon o’r enw Seithennyn. Roedd Gwyddno wedi rhoi’r swydd fwyaf pwysig yn y deyrnas i gyd i Seithennydd – agor a chau’r giatiau mor. Pob bore a pob nos roedd rhaid gwneud yr hyn i nadu’r tonnau rhag llifo i mewn.

Un dydd yn y brifddinas, roedd Gwyddno yn trefnu gwledd anferth i bobl gyfoethog y deyrnas i gyd. Erbyn 7 o’r gloch yn nos, roedd pawb wedi cyrraedd. Daeth y cogyddion y bwyd draw i’r bwrdd a chael popeth yn barod tra roedd pawb yn cwrdd â chyfarfod. Ddim yn hwyr wedyn, roedd pawb yn eistedd wrth y bwrdd ac yn cychwyn y wledd. Ynghyd a’r bwyd blasus i gyd, roedd y wledd wedi ei gyflenwi gyda llawer iawn o Wisgi. Y noson yna, roedd Seithennyn wedi mwynhau’r diodydd ychydig gormod ac wedi anghofio gadael y parti’r adeg oedd rhaid iddo. Roedd Gwyddno wedi gorchmynnu ei fod o’n gadael 9 o’r gloch i fedru cyrraedd y giatiau a gallu eu gau nhw mewn amser. Ond roedd Seithennyn yn dawnsio a chanu gyda’i fêts ar falconi uchel. Roedd hi’n tynnu am 10 o’r gloch pan gofiodd ei dasg bwysig, a gafodd o ond ei atgoffa gan yr olygfa o donnau yn llifo dros y waliau yn araf.

 

Gwibiodd o heibio pawb a trwy’r allanfa a ddechreuodd o redeg gyda’i wynt yn ei ddwrn at gyfeiriad y giatiau i geisio achub y dinasoedd. Roedd hi’n bellter hir i redeg, ac roedd o’n llawn o fwyta gymaint. Criodd o wrth sylweddoli beth oedd yn digwydd. Pan gyrhaeddodd o i’r giatiau, roedd y twr at ei bengliniau yn barod. Yn ôl yng Nghaer y brenin, ble roedd yr ŵyl, roedd pobl yn gorlenwi’r balconi ac yn gwylio lefel y môr yn codi’n gyflym.Dechreuodd Seithennyn i gau’r giatiau, ond roedd o’n cael trafferth gwnaed, gan fod y dŵr wedi codi at ei galon. Roedd ei ddwylo yn wlyb ac roedd o’n teimlo’r straen fwyaf bosib. Roedd pob dinas a bywydau pawb oedd yn byw yna yn dibynnu ar allu Seithennyn i gau’r giatiau. Ond nid oedd yn gallu, pob eiliad roedd y dŵr yn codi felly pob eiliad roedd hi’n mynd yn anoddach ac yn anoddach i gau’r giatiau. Cododd y dŵr at ei geg, ac yna at ei drwyn, a bellach at ei llygaid. Roedd o wedi methu achub pawb. Trodd o a gwelodd pawb yn rhedeg o gwmpas heb syniad beth i wneud. Cafodd llawer o bobl lwcus gychod i ddenig ond doedd rhan fwyaf o bobl ddim mor lwcus.

Erbyn hyn, roedd y dŵr yn llenwi yn gyflymach nac erioed, roedd tai ac adeiladai odan ddŵr. Roedd pawb yn ceisio tredio dwr i arnofio ond roedd Seithennyn yn teimlo mor euog am ddinistrio popeth penderfynodd o i aros yn y gwaelod a derbyn ei farwolaeth. Dros yr oriau nesaf, roedd sgrechian ddiddiwedd yn parhau wrth i’r dŵr godi’n bellach. Ond yn y pen draw daeth o i gyd i ddiwedd pan gymerodd y dyn olaf yna ei anadl olaf cyn boddi. Roedd Seithennyn wedi dinistrio 16 dinas a lladd cannoedd a channoedd… i gyd oherwydd roedd o wedi yfed gormod o wisgi yn y wledd.