Tudalennau newydd ar gael! Chwiliwch Powys neu Teifi i weld hanes diddorol Castell Powys a Castell Aberteifi

Oes yn ol, roedd gan tywysog cyfoethog or enw Llywelyn, gi ffyddlon or enw Gelert. Roedden nhw’n gwneud popeth gyda’i gilydd. Trwy’r amser roedd y ddau yn mynd i hela gyda’i gilydd ac yn cael gymaint o hwyl! Ond roedd Llywelyn newydd cael plentyn. Pan roedd o angen mynd i hela, gofynnodd o i Gelert i warchod ei fabi. Roedd Llywelyn yn dibynnu ar Gelert yn hollol tra aeth o i hela. Gyda’i wayaffon, roedd o’n lladd Llwynogod ac ader ond roedd Gelert hefo problem mwy.

 

Chwalodd y ffenestr pan neidiodd y blaidd drwyddi. Cododd Gelert yn syth, yn barod i amddiffyn y babi. Roedd y blaidd yn anhygoel o gryf, ond roedd Gelert yn hefyd, a roedd Gelert yn benderfynnol i amddiffyn. Am oes roedd Gelert yn ymladd y bwystfil ac roedd y ddau yn cael anafiadau drwg. Cafodd y waliau ac y lloriau ei beintio’n goch gyda gwaed y blaidd. Ar ol brwydr enfawr roedd Gelert wedi cael y streic olaf. Disgynnodd y blaidd i’r llawr a ni chododd o eto. Tu ol i’r soffa roedd y blaidd marw yn gorwedd, ac yn bwysicach, roedd y baban yn saff.

 

Oriau wedyn, cerddodd Llywelyn i fewn i’r ty a gwelodd o waed ym mhob man. Wrth gerdded ymlaen, gwelodd o bod ceg Gelert yn llawn gwaed hefyd. Ond be welodd o ddim oedd y baban. “Dim siawns!” Meddyliodd o. Wrth i Gelert eistedd yn disgwyl clod am amddiffyn y babi, roedd pen Llywelyn yn troi a throsi. Yn syth, gwibiodd ei feddwl i gredu fod Gelert wedi lladd y baban. Nid oedd o’n gallu ei goelio, ond gyda straen y foment a phopeth roedd o yn gallu gweld, penderfynnodd fod hyna oedd yr unig peth phosib. Gyda pob darn o’i waed yn berwi, gafaelodd Llywelyn yn ei glefydd a lladdodd o Gelert druan

 

Ddim yn hwyr wedyn, gwelodd Llywelyn corff y blaidd a chlywodd o wichian distaw y babi o’r ystafell arall. Yn syth, sylweddoddol fod Gelert heb lladd y babi, dim ond wedi’i amddiffyn o. Teimlodd Llywelyn yr euogrwydd fwyaf posib. Roedd Gelert yn haeddu cael ei wobreuo yn fawr – y peth olaf roedd o’n haeddu oedd cael ei ladd. Cafodd Gelert fedd crand yng nghanol y pentref, a chafodd y pentref ei hyn ei alw yn Beddgelert ar ol y ci anhygoel.